GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2019 Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 18 Mawrth 2019 |
|
Sifftio |
|
A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU? |
Na fydd |
Gweithdrefn: |
Cadarnhaol |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
Amherthnasol |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Anhysbys |
Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
Amherthnasol |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 25 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Dim angen |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Amherthnasol |
Gweithdrefn |
Cadarnhaol |
Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Anhysbys |
Sylwadau
Bwriedir i’r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU un unol ag adran 8(1) a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Diben y diwygiadau yw cywiro diffygion mewn deddfwriaeth sy’n deillio o’r Deyrnas Unedig (DU) yn ymadael â’r UE mewn cysylltiad â diogelwch a hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid cyffredinol. Bydd y Rheoliadau’n gwneud diwygiadau technegol bach iawn i gyfraith uniongyrchol yr UE a ddargedwir heb wneud unrhyw newid sylweddol i lefelau diogelu iechyd pobl neu i safon uchel y bwyd a’r bwyd anifeiliaid y mae defnyddwyr yn ei disgwyl o gynhyrchion a gynhyrchir yn ddomestig a chynhyrchion a fewnforir.
Nid yw’r OS yn trosglwyddo unrhyw un o swyddogaethau’r Comisiwn Ewropeaidd. Nid oes unrhyw effaith ar gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru na chymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol.
Mae’r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â’r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru, dyddiedig 20 Mawrth 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn. Mae’r datganiad yn gynhwysfawr ac yn cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol. Mae’r crynodeb uchod a chynnwys Memorandwm Esboniadol y Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.
Nid yw’r Cynghorwyr Cyfreithiol o’r farn bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o’r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn.
Nid yw’r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn.
|